Text Box: Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad 
 Cadeirydd y Pwyllgor Busnes

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales

 

Y Pwyllgor Busnes / Business Committee

 

Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad / Fourth Assembly Legacy

 

Tystiolaeth gan Y Pwyllgor Cyllid / Evidence from the Finance Committee

6 Tachwedd 2015

 

Annwyl Rosemary

Ymgynghoriad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes

Diolch am eich llythyr dyddiedig 7 Hydref ynghylch ymgynghoriad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes, ac am roi’r cyfle i’r Pwyllgor Cyllid gyfrannu at gasglu barn ar y gwaith a wnaed gan bwyllgorau yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Buom yn trafod yr ymgynghoriad a daethom i’r casgliadau canlynol a allai fod o gymorth i chi:

Amserau’r cyfarfodydd: Mae’r Aelodau yn cytuno bod dull y Pwyllgor o ran cwrdd yn ôl yr angen wedi gweithio’n dda yn ystod y Cynulliad hwn. Mae’r Pwyllgor wedi ceisio peidio â llenwi agendâu â gwaith diangen ac wedi canolbwyntio ei sylw ar feysydd sy’n gallu ychwanegu gwerth a dangos canlyniadau. Mae nifer o gyrff allanol ac unigolion wedi llongyfarch y Pwyllgor Cyllid ar ansawdd ein gwaith, gan gynnwys cyfrannu at waith y Comisiwn Silk, ac yn fwyaf diweddar cyfeiriodd Syr Adrian Webb at ein hadroddiad ar bwerau’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fel enghraifft o graffu enghreifftiol. Er ein bod yn deall y bydd gwaith y Pwyllgor Cyllid yn cynyddu yn y Pumed Cynulliad gyda newidiadau cyllidebol a Biliau trethi, rydym yn credu y dylid argymell y dull o ymgymryd â gwaith dethol.

Nifer yr Aelodau ar y Pwyllgor: Mae gan y Pwyllgor Cyllid wyth aelod ac mae’n llai o faint felly na’r pwyllgorau polisi. Profiad y Pwyllgor yn ystod y Cynulliad hwn yw bod y nifer llai o aelodau wedi bod yn ymarferol ac nid yw wedi effeithio ar ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd.

Cadeirio’r Pwyllgor Cyllid: Mae’r Pwyllgor yn credu, o ystyried natur ei waith, ei fod yn bwysig bod Aelod o’r wrthblaid yn cadeirio’r Pwyllgor a dylai hyn gael ei ragnodi yn y Rheolau Sefydlog. Er ein bod yn deall bod gennym rôl oruchwylio mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru, mae gofyn i’r Pwyllgor Cyllid gael Cadeirydd sy’n aelod o’r wrthblaid, ac efallai y dylid nodi hyn yn y Rheolau Sefydlog yn yr un modd ag y caiff ei nodi ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn teimlo bod y sylwadau hyn yn ddefnyddiol wrth i chi ystyried materion yn ymwneud ag etifeddiaeth.

Yn gywir

 

Jocelyn Davies

Cadeirydd